Annwyl Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Ysgrifennaf atoch ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i fynegi pryderon am y drafodaeth i sefydlu perthynas agosach rhwng Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chadw. Mae'r Amgueddfa yn un o sefydliadau cenedlaethol cyntaf Cymru ac mae Amgueddfeydd Cenedlaethol yn allweddol i'r ymdeimlad o genedligrwydd a hunaniaeth.
Mae'r Amgueddfa yn sefydliad addysgiadol. Mae cadw annibyniaeth barn wleidyddol yn allweddol i sicrhau hygrededd sefydliadau fel yr amgueddfa.
Mae hefyd yn sefydliad sy'n cynnig gwasanaeth addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn rhinwedd hyn, hoffem holi a oes unrhyw ystyriaeth wedi cael ei roi i effaith y cynlluniau hyn ar yr iaith Gymraeg?
Gobeithio y byddwch chi, fel Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad yn rhannu ein pryderon, ac yn trefnu ymchwiliad brys i'r cynlluniau hyn.
Yn gywir,
Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg